Datganiad I'r Wasg
Ar ôl pedair blynedd fel rheolwr cyffredinol ar gwmni Lloyds Coaches, mae Richard Jones yn ffarwelio'n annwyl a'r cwmni er mwyn canolbwyntio ar ei deulu a phethau eraill.
Dywedai Richard "Gyda balchder mawr edrychaf yn ôl ar fy amser gyda chwmni Lloyds, yn atgofio am ein llwyddiant a thyfiant busnes, yn goroesi newidiadau oddi fewn i'r diwydiant ar faterion cyllidol, deddfwriaeth a rheolau gwlad i godi proffil y cwmni ar draws llwyfan y deyrnas unedig drwy gydnabyddiaeth mewn dyfarniadau'r diwydiant.
Mae fy nyled yn fawr i'r bobl broffesiynol sydd yn y cwmni. Mae fy niolchiadau ac edmygedd i'r bobl arbennig hyn sydd wedi ymddiried yn fy ngallu gyda pharch a chefnogaeth yn fy rôl. Hoffaf hefyd ddiolch yn fawr iawn i'n cwsmeriaid ffyddlon sydd wedi cefnogi'r cwmni fel yr ydym wedi cyflwyno gwasanaethau newydd dros y blynyddoedd fel yr X28 a T2. Heb ein staff a chwsmeriaid ffyddlon ni fyddai'r cwmni yn bodoli.
Rwyf wedi mwynhau fy amser gyda chwmni Lloyds.
Bydd Dan Lloyd, mab i Wyn Lloyd (perchennog cwmni Lloyds) yn cymryd drosodd fy rôl oddi fewn i'r cwmni, ac felly yn ddilyniant naturiol i'r cwmni. Dymunaf y gorau i Dan, Wyn a staff ffyddlon y cwmni i'r dyfodol fel bydd y cwmni a theulu cwmni Lloyds yn parhau i dyfu a datblygu".
Bydd Richard yn gadael y cwmni dydd Gwener yma, 24 Ionawr, 2014.
Cerbydau Lloyds - yn darparu datrysiad trafnidiaeth gyfan.
Gallwch hefyd ein darganfod ar Facebook a Twitter.
DIWEDD