Mae gŵr o Fae Caerdydd wedi’i goroni’n enillydd cystadleuaeth gan Traveline Cymru, a gynhaliwyd ledled Cymru, i ddod o hyd i arwyr ym maes trafnidiaeth gyhoeddus.
Enillodd David Holmes sy’n 44 oed ei wobr, sef iPad newydd sbon, gan guro dros 4,000 o ymgeiswyr eraill.
Bu’r gystadleuaeth, a lansiwyd ym mis Ebrill 2013, yn annog pobl i’w cyflwyno eu hunain fel ‘Arwyr Traveline’, drwy nodi sut y mae defnyddio’r gwasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus wedi bod o fudd iddynt.
Nid yw David yn berchen ar gar, ac mae’n defnyddio gwefan Traveline Cymru i gynllunio ei deithiau ar drenau a bysiau. Mae’n bwriadu rhoi ei wobr i’w nith yn anrheg Nadolig er mwyn ei helpu gyda’i hastudiaethau pan fydd yn mynd i Brifysgol Bangor y flwyddyn nesaf.
Meddai David, ar ôl ennill y wobr: “Rwyf wrth fy modd fy mod i wedi ennill iPad. Bydd yn anrheg Nadolig perffaith i fy nith, oherwydd bydd hi’n gallu mynd ag ef gyda hi i’r Brifysgol i astudio’r Gyfraith y flwyddyn nesaf.
“Ers i mi werthu fy nghar, mae gwasanaeth gwybodaeth Traveline Cymru wedi bod yn amhrisiadwy o safbwynt fy helpu i gynllunio fy nheithiau. Mae’r ffaith bod yr holl fanylion ar gael ar un wefan yn gwneud pethau’n haws, oherwydd does dim rhaid i chi wastraffu amser yn pori drwy nifer o wefannau i ddod o hyd i amseroedd teithio. Diolch i Traveline Cymru, mae defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hawdd.”
Mae bron i 2 filiwn o ddarnau o wybodaeth am deithio wedi’u darparu i deithwyr yng Nghymru eleni, sydd 49% yn uwch na’r llynedd. Mae pobl wedi cael y wybodaeth drwy wefan ddwyieithog Traveline Cymru, ei ganolfan alwadau ddwyieithog, ei ap dwyieithog a’i sianelau ar gyfryngau cymdeithasol.
Yn gynharach eleni, aeth Traveline Cymru ati i ehangu’r ystod o wybodaeth y mae’n ei darparu i ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, drwy lansio gwasanaeth darganfod prisiau.
Mae’r gwasanaeth newydd hwn yn galluogi teithwyr i gael gwybodaeth am brisiau tocynnau trên a bws gan ystod o weithredwyr drwy ganolfan alwadau a gwefan benodol ddwyieithog Traveline Cymru, a bydd y wybodaeth ar gael hefyd ar ei aps ar gyfer yr iPhone a dyfeisiau Android yn ystod yr wythnosau nesaf.
Meddai Graham Walter, Rheolwr Cyffredinol Traveline Cymru: “Mae David yn enillydd teilwng, ac rydym yn gobeithio y bydd ei nith wrth ei bodd â’i hanrheg Nadolig. Er mai David oedd ein prif enillydd, dros yr wyth mis diwethaf rydym wedi cyflwyno gwobrau llai i lawer o bobl yng Nghymru a oedd, yn ein barn ni, yn haeddu statws Arwr Traveline.
“Rydym wrth ein bodd bod dros 4,000 o bobl wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch. Mae hynny’n dangos mor bwysig yw hi bod pobl yn gallu cael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio, waeth sut y maent yn dewis teithio.”

Laura Thomas (Traveline Cymru), Graham Walter - Rheolwr Cyffredinol (Traveline Cymru), David Holmes (enillydd y gystadleuaeth) a Rachel Pewsey (Traveline Cymru)