Mae adroddiad newydd wedi’i gyhoeddi gan yr RAC Foundation, sy’n datgelu bod mwyafrif helaeth pobl Cymru a Lloegr yn mynd mewn car i’w gwaith yn hytrach na defnyddio dulliau eraill o deithio. Mae’r RAC Foundation yn honni bod chwech o bob deg person sy’n teithio i’r gwaith yn gyrru neu’n cael lifft yno mewn car neu fan, ac o ddiystyru ardaloedd gwledig mae’r nifer yn codi i dros saith o bob deg.
Efallai nad yw’r ystadegyn hwn yn un annisgwyl, oherwydd mae pobl yn dewis teithio yn eu car am amrywiaeth o wahanol resymau: mae’n gyffyrddus, gall fod yn gynt, ac ar wahân i oedi oherwydd traffig nid oes yn rhaid i bobl ddibynnu ar neb na dim ond nhw eu hunain. Mae’n anodd rhoi’r gorau i rywbeth yr ydych wedi arfer ei wneud, ac efallai mai dyna pam y mae’n well o hyd gan bobl ddefnyddio’r car i deithio.
Yng Nghymru yn unig, mae bron i dri chwarter y sawl sy’n gweithio yn defnyddio car neu fan i deithio i’r gwaith; mae Blaenau Gwent ar frig y rhestr, gan fod dros wyth o bob deg gweithiwr yn yr ardal honno’n gyrru i’r gwaith. Gan anghofio am eiliad am gyfforddusrwydd gyrru, efallai fod yr ystadegau hyn yn peri mwy o syndod yn ystod y blynyddoedd diweddar o ystyried y cynnydd sylweddol a welwyd yng nghost moduro. Mae’r adroddiad yn honni bod pris tanwydd ac olew wedi codi ddwywaith yn gynt na chostau byw dros y degawd diwethaf, ac mae 800,000 o’r cartrefi tlotaf sy’n berchen ar gar yn gwario dros chwarter eu hincwm gwario ar brynu a rhedeg car. Er bod, gyda chostau rheilffordd mynd i gynyddu eto yn 2014, gallai ymddangos fel pe mathau penodol o gludiant cyhoeddus yn dod yn un mor gostus i'w defnyddio.
Ar wahân i’r gost, byddai newid ffordd pobl o deithio i’r gwaith yn cael effaith gadarnhaol tu hwnt nid yn unig ar iechyd y teithwyr eu hunain ond ar eu hamgylchedd hefyd. Mae gallu cynnig opsiynau i gwsmeriaid yn rhywbeth yr ydym yn dal yn awyddus i’w wneud, gan gynnig gwybodaeth am lwybrau beicio, amserlenni bysiau a mwy. Er bod teithio mewn car ar frig y rhestr o ddulliau teithio, mae’r adroddiad yn dangos hefyd mai cerdded yw’r ail ddull mwyaf poblogaidd o gyrraedd y gwaith ar draws Cymru a Lloegr, gan fod bron i 2.9 miliwn o bobl yn cerdded i’w gwaith. Mae golygfeydd prydferth i’w harchwilio yng Nghymru, ac mae cerdded a beicio’n ddulliau teithio amgen y gellir eu defnyddio i fwynhau’r hyn sydd o’n cwmpas. Maent hefyd yn ffyrdd iach ac effeithiol o deithio i’r gwaith.
Gan fod yr ystadegau mor uchel â hyn, mae’n annhebygol y gwelwn ni newid yn fuan iawn. Felly, efallai fod cynnig gwasanaeth parcio a theithio yn gyfle i’r sawl sy’n teithio i’r gwaith fanteisio ar ddulliau mwy cynaliadwy o deithio, heb orfod ffarwelio â’u ceir yn gyfan gwbl.
Meddai Stephen Glaister, Cyfarwyddwr yr RAC Foundation, “Yr hyn sy’n rhyfeddol yw cymaint y mae gweithwyr mewn trefi a dinasoedd - yn ogystal â’r sawl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig - yn dibynnu ar geir.”
Mae’n ymwneud wedyn â newid canfyddiadau pobl a’u hagweddau at drafnidiaeth gyhoeddus. Os gall gwasanaethau brofi i’r cyhoedd eu bod yn ddibynadwy, eu bod yn brydlon ac y bydd y sawl sy’n teithio i’r gwaith arnynt yn cael gwasanaeth da, dyna pryd y gwelwn ni’r ystadegau hyn efallai’n dechrau newid.