Maint y testun: A A A
Cyferbynnedd:
Gwrando: More about BrowseAloud
Digwyddiadau

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad RBS. Cymru v Yr Eidal, 19 Mawrth 2016

Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad RBS bob amser yn un o uchafbwyntiau’r calendr chwaraeon, ac eleni bydd Cymru yn herio’r Alban, Ffrainc a’r Eidal yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd! Bydd hi’n brysur iawn yn y ddinas, felly gwnewch yn siŵr bod eich tocynnau gennych yn barod ac ewch draw i’r brifddinas i fwynhau’r awyrgylch yn ystod y gêm.

I gael rhagor o wybodaeth am Bencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, ewch i wefan Pencampwriaeth y Chwe Gwlad RBS.


Ydych chi am deithio i’r digwyddiad hwn?

Isod, fe welwch chi rai dolenni cyswllt defnyddiol i’ch helpu i ddechrau cynllunio eich taith i’r digwyddiad. Gall defnyddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yr ardal fod yn ffordd wych o gyrraedd y ddinas a’ch arbed rhag gorfod poeni am ddod â’r car.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Os ydych am deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, defnyddiwch ein Cynlluniwr Taith i ddod o hyd i’r llwybr mwyaf cyfleus, manylion y gwasanaethau sy’n rhedeg a’u hamseroedd.

Os hoffech ddod o hyd i amserlen fysiau, ewch i’n tudalen Amserlenni. Yma, gallwch chwilio am lwybr bysiau penodol neu’ch lleoliad er mwyn gweld amserlenni gwasanaethau yn eich ardal. Yn ogystal, byddwch yn gallu argraffu’r amserlen er mwyn mynd â hi gyda chi ar eich taith.

Cerdded a beicio

Gallwch hefyd ddefnyddio ein cynlluniwr taith i ddod o hyd i lwybrau cerdded a beicio er  mwyn cyrraedd eich digwyddiad. Os ydych yn byw’n agos, gall cerdded fod yn ffordd wych o weld y golygfeydd a mwynhau’r awyrgylch cyn y digwyddiad!

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Beicio a Cherdded.

Rhannu car

Os ydych yn ystyried gyrru i ddigwyddiad, gallwch rannu eich taith â phobl eraill drwy fewngofnodi i Share Cymru. Ar y wefan hon, gallwch ddewis cynnig lifft neu ofyn am lifft a gallwch ddod o hyd i rywun arall sy’n teithio i’r un man â chi.

< Pob digwyddiad