Maint y testun: A A A
Cyferbynnedd:
Gwrando: More about BrowseAloud
Newyddion

2016

Arolwg yn dangos bod teithio ar y bws yn y de £1,400 y flwyddyn yn rhatach na theithio i’r gwaith yn y car, er gwaetha’r gostyngiad ym mhris tanwydd

24 Chw
Mae ymchwil cenedlaethol newydd wedi darganfod y gall y sawl sy’n teithio i’r gwaith arbed oddeutu £1,400 y flwyddyn drwy ddal y bws yn lle teithio yn y car, er gwaetha’r gostyngiad ym mhris tanwydd.

Cyfle i ennill iPhone drwy fynd i’r Bannau yn y Flwyddyn Newydd

17 Chw
Cafodd y gystadleuaeth ei lansio ddydd Llun 4 Ionawr ar Instagram wrth i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gyhoeddi cyfle i ennill iPhone 6S i ddathlu Blwyddyn Antur 2016 Cymru.

Ar fws i fwynhau antur!

11 Chw
Roedd digon o ddŵr yn llifo dros Sgŵd Gwladus heddiw i groesawu deg o fyfyrwyr twristiaeth o Brifysgol y Drindod Dewi Sant yn Abertawe, a oedd wedi teithio ar y bws ‘Clipiwr’ X55 o Abertawe i ardal y rhaeadrau yng Nghwm Nedd i fwynhau antur. 

PTI Cymru yn penodi Rheolwr Gweithrediadau

11 Chw
Mae PTI Cymru, y sefydliad ymbarél sy’n rhedeg Contact Centre Cymru a Traveline Cymru, sef gwasanaeth gwybodaeth Llywodraeth Cymru am drafnidiaeth gyhoeddus, wedi cyhoeddi ei fod wedi penodi Sian Musk i swydd newydd, sef swydd Rheolwr Gweithrediadau.

First Cymru am godi’ch calon ar Ddydd Llun Digalon

18 Ion
Mae’r gweithredwr bysiau First Cymru yn helpu i godi calonnau pobl ar Ddydd Llun Digalon â chynnig arbennig a ddarperir ar y cyd â Chanolfan Hamdden Abertawe.

Y newyddion diweddaraf: gohirio streic Trenau Arriva Cymru

14 Ion
Mae’r gweithredu diwydiannol gan weithwyr Trenau Arriva, a oedd i fod i ddigwydd ddydd Llun 1 Chwefror, wedi’i ohirio tra’n disgwyl am hysbysiad ffurfiol.

Rhybudd o rew ac eira i Gymru yr wythnos hon

13 Ion
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi diweddaru ei rhagolygon o ran eira i ddangos y bydd eira’n disgyn dros ardaloedd eang o dir uchel ar draws Cymru fore dydd Gwener wrth i’r tymheredd ostwng yn agos i’r rhewbwynt ym mhob cwr o’r wlad.