Mae dau drên a gafodd eu hynysu ar reilffordd yn Abermo ar ôl y stormydd a darodd arfordir y canolbarth a’r gogledd ddechrau mis Ionawr yn cael eu cludo i Gaer ar gefn lorïau, er mwyn cynnal gwiriadau diogelwch arnynt.
Tarodd y stormydd Lein Arfordir y Cambrian ar 3 Ionawr, gan amharu ar wasanaethau ac achosi difrod i’r ardal gyfagos. Meddai llefarydd ar ran Network Rail, “Cafodd y morglawdd ei olchi i ffwrdd yn Llanaber, ac o ganlyniad cafodd 300 tunnell o falast y rheilffordd ei golli i’r môr a chafodd oddeutu 800 tunnell o rwbel ei wasgaru ar draws y llinell.”
Mae Network Rail wedi dechrau atgyweirio’r rheilffordd yr effeithiwyd arni, sy’n rhedeg rhwng Machynlleth a Phwllheli. Ychwanegodd y llefarydd, “mae ymchwydd y llanw hefyd wedi difrodi’r arglawdd a’r morglawdd yn Abermo a Thywyn, sy’n golygu nad yw’n ddiogel i drenau deithio ar hyd y rheilffordd.”
Roedd y ddau drên wedi bod yn sownd ar y rheilffordd ers 3 Ionawr, felly penderfynodd Trenau Arriva Cymru eu symud am resymau diogelwch. Yn ôl llefarydd ar ran Trenau Arriva Cymru nid oedd yr un o’r ddau drên wedi’u difrodi gan y stormydd, a “bydd y gwiriadau diogelwch arferol yn cael eu cynnal arnynt cyn iddynt gael eu defnyddio mewn mannau eraill ar y rhwydwaith.”
Mae’r rheilffordd ar gau o hyd, ac mae bysiau’n gweithredu yn lle trenau ar hyn o bryd.