Mae gwefan newydd ar gyfer llwybrau cenedlaethol yng Nghymru wedi’i lansio heddiw, ddydd Iau 16 Ionawr, gan y fenter gymdeithasol Walk Unlimited.
Mae’r wefan newydd wedi’i chynllunio er mwyn helpu ymwelwyr a phobl leol yn yr ardal i gynllunio eu hymweliad ag un o’r llwybrau cenedlaethol. Mae digon o nodweddion defnyddiol a diddorol ar y wefan, sy’n darparu llawer iawn o wybodaeth y gall ymwelwyr bori ynddi wrth gynllunio taith.
Mae’r wefan yn cynnwys ystod o wybodaeth am yr amrywiaeth o lwybrau cenedlaethol y mae modd ymweld â hwy, yn ogystal ag adrannau ynghylch digwyddiadau a phethau i’w gwneud yn yr ardal. Unwaith y bydd defnyddwyr wedi meddwl am daith, gallant fynd ati i’w chynllunio ar-lein gan ddefnyddio’r mapiau rhyngweithiol sydd ar gael a’r cynghorion ynghylch sut i gyrraedd yno. At hynny, darperir gwybodaeth am unrhyw rybuddion tywydd, ynghyd â newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gyfleoedd gwirfoddoli y gall pobl gymryd rhan ynddynt.

Caiff ymwelwyr â’r safle eu hannog i lanlwytho eu hargymhellion ynghylch eu hoff leoedd lleol ar hyd y llwybrau, a chaiff busnesau a darparwyr gwasanaethau lleol eu gwahodd i lanlwytho eu gwybodaeth eu hunain, gan ychwanegu mwy o ddyfnder i’r wefan newydd fel ffynhonnell wybodaeth.
Gellir gweld gwefan newydd y llwybrau cenedlaethol drwy glicio yn y fan hon.