Ymunwch yn y sgwrs a rhannwch eich cynghorion gorau ynghylch teithio i’r Brifysgol drwy #UniTravelTips, er mwyn cael cyfle i ennill tocynnau gwario gwych gwerth £30 yn wythnosol. Bydd un person lwcus yn mynd yn ei flaen i ennill Kindle Fire newydd sbon.
I wneud yn fawr o’r gystadleuaeth, cofiwch gynnwys @tag eich Prifysgol yn eich neges. Yna, byddwch yn gallu mynd i’n microwefan a’n ap Facebook I weld eich cynghorion chi a chynghorion eich ffrindiau ar gyfer eich Prifysgol! Gallwch gael mynediad i’r wefan ar eich ffôn symudol hefyd er mwyn gweld y cynghorion wrth i chi deithio!
Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal rhwng dydd Llun 18 Awst a dydd Gwener 24 Hydref 2014. Ar ddiwedd pob wythnos, byddwn yn penderfynu pwy a anfonodd y cyngor mwyaf defnyddiol a bydd y person hwnnw’n ennill tocyn gwario gwerth £30.
Ar ddiwedd y gystadleuaeth, bydd un person lwcus a anfonodd y cyngor gorau, mwyaf defnyddiol yn gyffredinol yn ennill Kindle Fire newydd sbon!
Felly, byddwch yn greadigol, a rhannwch eich cynghorion defnyddiol er mwyn helpu eich cydfyfyrwyr; efallai y gwelwch chi ambell gyngor defnyddiol a fydd o help i chi!
Pob lwc ac edrychwn ymlaen at weld eich cynghorion ynghylch eich Prifysgol!
Tîm Traveline Cymru