Mae Canolfan Gyswllt Traveline Cymru yn ymestyn ei horiau agor tan 11pm ar ddydd Gwener 15 Ebrill a dydd Sadwrn 16 Ebrill oherwydd y streic a gynllunnir gan dacsis Caerdydd. Disgwylir i’r streic gael ei chynnal rhwng hanner nos a 2am ar ddydd Gwener 15 Ebrill a dydd Sadwrn 16 Ebrill.
Gall cwsmeriaid ffonio Traveline Cymru ar 0300 200 22 33 am bris galwad leol rhwng 7am ac 11pm ar y diwrnodau hyn gydag unrhyw ymholiadau sydd ganddynt ynghylch streic y tacsis.
Yn ogystal, gall cwsmeriaid ddefnyddio’r cyfleuster chwilio am amserlenni a’r bwrdd ymadawiadau ar ein gwefan i ddod o hyd i amseroedd y bysiau a’r trenau diwethaf sy’n rhedeg.
I gael rhagor o wybodaeth am streic tacsis Caerdydd, ewch i Wales Online yma.