Nod gwobrau cyntaf Womenspire, a gynhelir gan Chwarae Teg, yw dathlu cyflawniadau menywod Cymru o bob cefndir sy’n gwneud pethau eithriadol ym mhob agwedd ar eu bywyd bob dydd.
Mae Traveline Cymru yn fusnes yng Nghymru sy’n cyflogi 35 o bobl mewn safle yng nghanol Caerdydd a safle ym Mhenrhyndeudraeth, ac mae 20 o’r 35 sy’n cael eu cyflogi’n fenywod. Enwebwyd y busnes oherwydd ei ymrwymiad i bolisïau a phrosesau sy’n gefnogol i deuluoedd, oherwydd ei raglen o hyfforddiant a chyfleoedd datblygu ac oherwydd y buddsoddiad y mae’n ei wneud yn ei weithwyr.
Meddai Jo Foxall, Rheolwr Marchnata Traveline Cymru:
Ar hyn o bryd, mae nifer o’r menywod yn nhîm Traveline Cymru yn astudio am gymhwyster yn y tymor hir, megis cymhwyster Marchnata Digidol y Sefydliad Marchnata Siartredig, cymhwyster Arweinyddiaeth y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth a chymwysterau NVQ ym maes gwasanaethau i gwsmeriaid.
Meddai Joy Kent, Prif Weithredwr Chwarae Teg:
Y sefydliadau eraill sydd wedi’u cynnwys ar y rhestr fer yng nghategori’r sector cyhoeddus yw Heddlu De Cymru, y DVLA a Phrifysgol Bangor.
Caiff enwau enillwyr yr holl wobrau Womenspire eu cyhoeddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ddydd Iau 14 Ebrill 2016 mewn seremoni arbennig, lle bydd y sawl sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a gwesteion o bob cwr o Gymru yn bresennol.
Ychwanegodd Ms Foxall:
Gallwch wneud eich profiad gyda ni’n fwy personol drwy gofrestru â’ch cyfrif eich hun. Yma, byddwch yn gallu cadw eich hoff deithiau, gweld problemau teithio a llawer mwy drwy deilwra eich taith i ddiwallu eich anghenion.
Cliciwch yma i gael gwybod mwy ac i gofrestru, neu mewngofnodwch isod.
